Annwyl Aelodau,

Cynhaliodd y Bwrdd Taliadau ei gyfarfod cyntaf yn 2015 ar 16 Ionawr. Ysgrifennaf atoch gyda’r wybodaeth ddiweddaraf am hynt y Penderfyniad newydd sbon ar gyfer y Pumed Cynulliad, ac i wahodd ymatebion i'r ymgynghoriad ar nifer fach o newidiadau yr ydym yn eu cynnig ar gyfer y flwyddyn i ddod (sy’n dechrau ym mis Ebrill).

Penderfyniad 2015-16

Er bod y Bwrdd yn paratoi Penderfyniad newydd sbon ar gyfer y Pumed Cynulliad, ac er iddo ymgynghori'n helaeth ar bob agwedd, nid yw'n fwriad gennym wneud newidiadau pellgyrhaeddol ar gyfer blwyddyn olaf y Cynulliad hwn.

Dyma'r newidiadau yr ydym yn cynnig eu cyflwyno o fis Ebrill 2015:

·         Mewn ymateb i adborth a gafwyd mewn ymgyngoriadau blaenorol, rydym yn cynnig cyflwyno tâl marwolaeth yn y swydd ar gyfer staff cymorth ar 2* eu cyflog blynyddol gwirioneddol yn y flwyddyn dreth neu'r flwyddyn flaenorol.

·         Diwygio'r ddarpariaeth ar gyfer dileu swydd, fel y bydd Staff Cymorth yn cael y swm statudol o 2* os ydynt yn colli eu gwaith yn sydyn (e.e. os yw’r Aelod Cynulliad sy'n eu cyflogi yn peidio â bod yn Aelod, neu oherwydd newidiadau yng nghyllid staff y Grŵp). Cedwir y lefel statudol o 1.5* ym mhob achos arall.

·         Mewn ymateb i adborth Aelodau, byddwn yn cael gwared ar y cap presennol o £2,000 ar gostau teithio a goramser i staff, lle bydd yr arian am hynny ar gael yng nghyllidebau Aelodau.

·         Byddwn yn caniatáu i Aelodau godi eu lwfans costau swyddfa hyd at 25% drwy drosglwyddo arian o'u lwfans costau staffio. Mae'r lwfans costau swyddfa i newid yn unol â’r gyfradd CPI ym mis Mawrth 2015.

·         Fel y cyhoeddwyd yn flaenorol, bydd cyflogau sylfaenol Aelodau Cynulliad yn codi 1% i £54,390.

·         Fel y nodwyd yn fy llythyr blaenorol, mae'r Bwrdd ar hyn o bryd yn ymgynghori ar gynnig codi cyflog Staff Cymorth Aelodau'r Cynulliad ar gyfer 2015-16 1% neu yn unol â ffigurau ASHE ar gyfer mis Mawrth 2015 ar gyfer enillion canolrifol yng Nghymru, pa un bynnag yw’r uchaf. (Y dyddiad cau yn y mater hwn yw 11 Chwefror)

·         Byddwn yn rhoi trefniadau ar waith i sicrhau bod deiliaid swyddi sy'n aros yn y swydd hyd nes y penodir rhywun yn eu lle yn y Cynulliad newydd - h.y. Gweinidogion a'r Llywydd - yn cael eu talu'n deg.

·         Byddai pob eitem arall yn aros yn ddigyfnewid.

Cafwyd ymgynghoriad ar yr eitemau hyn eisoes, neu fe’u cynigwyd o ganlyniad i ymatebion i ymgynghoriadau blaenorol. Oherwydd hyn, dylai ymatebion pellach ddod i law erbyn 19 Chwefror.

Penderfyniad ar gyfer y Pumed Cynulliad

Trafododd y Bwrdd nifer fach o faterion nas penderfynwyd arnynt ar gyfer y Pumed Cynulliad, a bydd yn ymgynghori ar y rhain pan gyhoeddir y Penderfyniad drafft ym mis Mawrth.

 

 

Lwfansau Aelodau'r Cynulliad

Trafododd y Bwrdd yr ymatebion ffurfiol i'n hymgynghoriad ar lwfansau Aelodau Cynulliad. Gwnaethom nodi’r ffaith bod Aelodau yn dweud bod gofyn cynyddol iddynt weithio gyda'r nos, a gofynnwyd a ddylai'r Bwrdd wneud rhywbeth i gefnogi hyn. Nid ydym yn bwriadu newid y drefn lwfansau. Rydym yn gwerthfawrogi y bydd cyfrifoldebau Aelodau weithiau'n golygu bod rhaid iddynt weithio'n hwyr, ond mater i'r Aelodau eu hunain yw amseru busnes.

Ym mis Mawrth, byddwn yn cyhoeddi ein cynigion terfynol ar gyfer Lwfansau’r Aelodau fel rhan o'r Penderfyniad drafft ar gyfer y Pumed Cynulliad, a byddwn hefyd yn cyhoeddi'r ymatebion i'r ymgynghoriad.

Cyflogau Aelodau'r Cynulliad

Edrychodd y Bwrdd ar yr ymatebion ffurfiol ac anffurfiol i'n hymgynghoriad ar Gyflogau Aelodau am y tro cyntaf. Ni ddaethom i unrhyw gasgliadau ffurfiol. Ym mis Mawrth, byddwn yn cyhoeddi ein cynigion terfynol fel rhan o'r Penderfyniad drafft, ac byddwn hefyd yn cyhoeddi'r ymatebion i'r ymgynghoriad.

Cefnogaeth i'r Grwpiau

Trafododd y Bwrdd unwaith eto'r gefnogaeth sydd ar gael i grwpiau, sy’n gyfwerth ag oddeutu £900,000 ar hyn o bryd. Rydym yn ymwybodol o'r ffaith bod y system bresennol yn gymhleth ac nid oes sail resymegol glir iddi, ac o’r ffaith y byddai costau’n codi’n sylweddol pe bai mwy o grwpiau yn y Cynulliad.

Mae'r Bwrdd yn awyddus i gyflwyno system a fyddai'n:

·         galluogi ac yn annog craffu effeithiol ar waith y Llywodraeth;

·         sicrhau bod pob grŵp yn cael cefnogaeth weinyddol ddigonol i weithredu mewn modd cydlynol ac effeithlon.

Yn ogystal, trafodwyd y ffordd orau o gefnogi gwaith craffu unrhyw Aelod nad yw'n rhan o grŵp plaid fel y'i diffinnir gan y Cynulliad, a sut y gellir sicrhau y cedwir costau ariannu grŵp ar y lefel bresennol neu ar lefel agos at y lefel honno.

Rydym wedi ystyried nifer o fodelau ariannu amgen a byddwn yn gofyn am sylwadau pellach ar y rhain gan bob grŵp dros yr ychydig wythnosau nesaf cyn cyhoeddi cynigion ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus ym mis Mawrth.

Cydraddoldeb

Rydym yn ddiolchgar i Diverse Cymru am ddod i'n cyfarfod ac am roi adborth ar ein gwaith hyd yma i sicrhau bod materion cydraddoldeb wedi cael ystyriaeth briodol. Ein bwriad yw cyhoeddi'r gwaith hwn fel rhan o'n prif adroddiad, sy'n cyd-fynd â'r Penderfyniad terfynol ym mis Mai 2015.

Y camau nesaf

Yn ôl fy arfer, mae'n fwriad gennyf gyhoeddi'r llythyr hwn ar ein gwefan, cyn gynted ag y bydd yr Aelodau wedi cael cyfle i'w ddarllen.

 

Rydym yn bwriadu cyhoeddi ein Penderfyniad drafft ar gyfer y Pumed Cynulliad ddechrau mis Mawrth, gydag ymgynghoriad byr a fydd yn rhoi sylw penodol i'r materion hynny nad ydym wedi ymgynghori arnynt hyd yma. Rydym yn parhau i fod ar y trywydd iawn ar gyfer cyhoeddi ein Penderfyniad terfynol tua diwedd mis Mai 2015.

Rwy'n barod iawn i gwrdd ag Aelodau Cynulliad unigol neu grwpiau plaid i drafod unrhyw agwedd ar waith y Bwrdd. Os hoffech gwrdd â mi, cysylltwch â Gareth Price, Clerc y Bwrdd, drwy anfon neges at taliadau@cynulliad.cymru i wneud trefniadau. 

 

Sandy Blair CBE

Cadeirydd / Chair

Bwrdd Taliadau/Remuneration Board